R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
1. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar oriau agor fferyllfeydd? OAQ(4)0473(HSS)W
2. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u darparu i fyrddau iechyd lleol ar Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol? OAQ(4)0467(HSS)
3. Lynne Neagle (Torfaen): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â mynd i’r afael ag ymwrthedd i wrthfiotigau? OAQ(4)0471(HSS)
4. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud mewn perthynas â nifer y merched ysgol sy’n cael brechiadau yn erbyn y Feirws Papiloma Dynol yng Nghymru? OAQ(4)0472(HSS)
5. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Cynghorau Iechyd Cymunedol yn nhermau cefnogi profiad y claf yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0474(HSS)W
6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gynnydd sy’n cael ei wneud o ran cynyddu nifer y bobl hŷn bregus sydd yn cael eu galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain ar ôl gadael yr ysbyty? OAQ(4)0462(HSS)
7. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar Wasanaeth Gwaed Cymru? OAQ(4)0469(HSS
8. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar amseroedd aros ar gyfer triniaeth yng Nghymru? OAQ(4)0476(HSS)
9. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru? OAQ(4)0464(HSS)
10. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog o ran gwella iechyd yng Nghwm Cynon? OAQ(4)0470(HSS)
11. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar wasanaethau meddygon teulu yn Sir Benfro? OAQ(4)0477(HSS)
12. Sandy Mewies (Delyn): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant? OAQ(4)0463(HSS)
13. Alun Ffred Jones (Arfon): Pa gynlluniau cyfalaf sydd wedi cael eu cadarnhau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(4)0468(HSS)W
14. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gynnydd o ran adroddiad yr Athro Andrews ar ofal yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot? OAQ460(HSS)
15. Leanne Wood (Canol De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiadar berfformiad y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru? OAQ(4)0466(HSS)
Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganfaint o fanciau bwyd sydd yng Nghymru? OAQ(4)0210(CTP)
2. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar effeithiau benthycwyr llog uchel ar gymunedau tlotach yng Nghymru? OAQ(4)0195(CTP)
3. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Pa effaith y mae diwygiadau i fudd-daliadau nawdd cymdeithasol ers 2010 wedi’i chael ar faint o arian sy’n cylchredeg yng Nghaerdydd? OAQ(4)0205(CTP)
4. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynnydd tuag at gwrdd â thargedau Cynllun Cyflawni Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0198(CTP)
5. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog gwirfoddoli o fewn cymunedau? OAQ(4)0196(CTP)
6. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)? OAQ(4)0207(CTP)W
7. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog gwell perthnasau gyda chymunedau Mwslimaidd yng Nghymru? OAQ(4)0193(CTP)
8. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Beth y mae’r Gweinidog yn ei wneud i fynd i’r afael â rhagfarn hiliol mewn cymunedau yng Nghymru? OAQ(4)0194(CTP)
9. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith y dreth ystafell wely ar drigolion Canolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0208(CTP)W
10. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Beth yw strategaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru o ran dileu tlodi plant erbyn 2020? OAQ(4)0200(CTP)
11. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar bwysigrwydd trosglwyddo gwybodaeth am ddatblygu cynaliadwy i genedlaethau’r dyfodol? OAQ(4)0206(CTP)
12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynyddu cynhwysiant digidol yng Nghymru? OAQ(4)0209(CTP)
13. Christine Chapman (Cwm Cynon):Beth yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran mynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru? OAQ(4)0202(CTP)
14. Lynne Neagle (Torfaen): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r effaith y mae’r newid i’r taliad annibyniaeth bersonol wedi’i chael ar bobl yn Nhorfaen? OAQ(4)0199(CTP)
15. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cynnydd a wnaed yn ystod blwyddyn gyntaf y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi? OAQ(4)0204(CTP)
Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ar unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael gyda Swyddogion y Gyfraith ynglŷn ag effaith cyfraith arfaethedig yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru? OAQ(4)0066(CG)W
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar unrhyw sylwadau y mae wedi’u gwneud mewn perthynas ag achosion sydd gerbron y Goruchaf Lys?OAQ(4)0067(CG)W